Gareth Williams
Anrhegion i’w chwaer oedd y casgliad  o ddillad menywod gwerth £20,000 a ddarganfuwyd yn fflat yr ysbïwr o Fôn, Gareth Williams, meddai ei ffrind wrth roi tystiolaeth yn ei gwest brynhawn ddoe.

Dywedodd ei ffrind ers yr ysgol gynradd a’r dylunydd ffasiwn, Siân Lloyd Jones, fod Gareth Williams yn ddyn caredig ac yn aml rhoi anrhegion i’w chwaer.

Clywodd y cwest ddoe fod eitemau dillad “gwerthfawr iawn” wedi cael eu darganfod yn ystafell wely bach y fflat, gan gynnwys 26 pâr o esgidiau a bŵts, a llawer o’r rheiny yn rai gan ddylunwyr ffasiwn enwog fel Christian Louboutin, Stella McCartney, Christian Dior a Chloe.

Daeth yr heddlu hefyd o hyd i sawl wig yn y fflat, a’r rheiny dal yn eu pecynnau, heb eu defnyddio, gan gynnwys un yr oedd Gareth Williams wedi ei brynu tra ar drip diweddar i’r Unol Daleithiau.

Roedd y dillad menywod o faint bach i ganolig i gyd mewn cyflwr “perffaith” ac mewn “cyflwr fel newydd” ac yn aml wedi eu rhwymo mewn papur tusw, clywodd y llys.

Cafodd colur hefyd ei ddarganfod yn y fflat, gan gynnwys minlliw, a lliw i’r llygaid, a’r rheiny i gyd yn ymddangos “yn newydd” a heb unrhyw ôl o’u defnyddio.

Yr unig eitemau oedd wedi cael eu defnyddio, yn ôl pob golwg, oedd pedwar pâr o esgidiau maint 6 neu 6.5, sef maint traed Gareth Williams, yn ôl y Ditectif Brif Arolygydd, Jackie Sebire.

Pan holodd y Crwner, Fiona Wilcox, a oedd hi’n credu y byddai’r dillad wedi ffitio Gareth Williams, ei hymateb oedd: “O bosib.”

Cafodd y dillad eu darganfod mewn bag North Face arall ar y gwely, meddai. Roedd derbyniadau yn awgrymu eu bod wedi cael eu prynu rhwng 2008 a 2009.

Ond wrth roi tystiolaeth ddoe, mynnodd ei ffrind, Sian Lloyd Jones, ei bod hi’n credu mai anrhegion i’w chwaer oedd y dillad, ac nad oedd hi’n credu ei fod yn drawswisgiwr.

“Dwi’n credu y byddai wedi gallu ymddiried ynof i… fyddwn i ddim wedi ei feirniadu,” meddai.

Dim esboniad dros DNA

Clywodd y llys ddoe hefyd fod olion anesboniadwy o DNA wedi cael eu darganfod ar y bag coch oedd yn cynnwys corff Gareth Williams, 31.

Cafodd ei gorff  ei ddarganfod mewn bag wedi ei gloi, ym math ei fflat yn Llundain.

Dywedodd Jackie Sebire ddoe fod DNA rhywun anhysbys wedi cael ei darganfod ar sip y bag, a’r clo clap.

Dywedodd hefyd ei bod hi o’r farn bod “rhywun arall yn gysylltiedig â hyn.”

Dirgelwch

Mae marwolaeth Gareth Williams wedi peri penbleth i Scotland Yard, sy’n dal i fethu â darganfod achos marwolaeth yr ysbïwr nac ychwaith ai ef ei hun oedd yn gyfrifol am gloi ei hun yn y bag.

Cafodd allweddi i’r clo clap eu darganfod yn y bag, o dan gorff Gareth Williams.

Wrth i’r cwest weld lluniau fideo o fflat Gareth Williams ddoe, clywodd y llys fod y dystiolaeth fforensig a ddarganfuwyd yn y fflat yn cynnwys gwaed a semen.

Roedd y drws allan cyffredinol i’r adeilad wedi ei gloi gan ddau fath o gloi, a chafodd dafn o waed rhywun arall ei ddarganfod yn y cyntedd cymunedol.

Darganfuwyd dau ôl esgid yng nghegin ei fflat hefyd, ond fod yr olion yn rhy “dameidiog” i ddarganfod maint y troed, meddai Jackie Sebire.

Wrth roi tystiolaeth ddoe, dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd bod ei swyddogion wedi edrych ar bob posibilrwydd. Ond dywedodd mai “fy marn i ar y mater, ers i fi fod yno, yw bod rhywun arall yn gysylltiedig â’r farwolaeth neu wedi rhoi’r corff yn y bag.”

Mae’r cwest yn parhau heddiw.