Mae canolfan ymchwil yn Aberystwyth wedi derbyn £60,000 er mwyn ymchwilio i ffyrdd o ddarganfod canser y brostad, sef y canser mwyaf cyffredin mewn dynion.
Cafodd yr arian ei roi i Brifysgol Aberystwyth gan gwmni Hoover o Ferthyr Tudful trwy gyfrwng Elusen Canser y Brostad. Dywedodd yr Athro Reyer Zwiggelaar, arweinydd y prosiect yn Adran Gyfrifiadureg y Brifysgol, fod yr arian yma yn “ein galluogi i archwilio’r dulliau modelu cyfrifiadurol mwyaf diweddar tra’n ein cynorthwyo i feithrin gwyddonwyr canser y brostad y dyfodol ar yr un pryd.”

Mae’r prosiect ymchwil yn edrych ar gyfuno canlyniadau cyseiniant magnetig (MRI) ac uwchsain er mwyn dangos ble’n union mae’r tiwmorau ac i gael gwell syniad o’u maint.

Bydd yr arian yn talu am ysgoloriaeth PhD tair blynedd yn y Brifysgol, a fydd yn rhedeg tan yr Hydref 2014.

‘Un o’r heriau mwyaf’

Mae Dr Kate Holmes, Pennaeth Rheoli Ymchwil Elusen Canser y Brostad, o’r farn mai, “Un o’r heriau mwyaf mewn ymchwil canser y brostad yw’r gallu i wneud diagnosis cywir o’r clefyd.”

“Credwn y bydd y prosiect arloesol yma ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhoi’r atebion sydd eu hangen ar feddygon er mwyn gwneud diagnosis mwy cywir a thrin tiwmorau i ddarparu budd gwirioneddol i ddynion yng nghamau cynnar eu clefyd” ychwanegodd Dr Kate Holmes.