Mae deiseb yn galw am atal arbrofi milwrol ar safle yn ne Ceredigion wedi denu dros gant o lofnodion mewn llai na phythefnos.

Mae’r ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthwynebu arbrofi gydag awyrennau di-beilot ar safle milwrol Aberporth, ger Aberteifi.

Cangen Caerfyrddin o Gymdeithas y Cymod yw’r prif ddeisebydd, ac maen nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i atal yr arbrofi ar arfau dros dir Cymru yn gyfan gwbl.

“Erfyniwn ar Lywodraeth Cymru i dynnu’n ôl y gefnogaeth a roddwyd i awyrennau di-beilot y DU i gael eu profi yn Aberporth ac i hedfan dros ran helaeth o Gymru,” meddai Cymdeithas y Cymod.

Mae rhan o’r canolbarth a’r gorllewin, o Aberporth draw i fynyddoedd Epynt wedi ei glustnodi’n ardal brofi ar gyfer awyrennau o’r fath, sy’n cael eu defnyddio ar gyfer ymladd a bwriadau heddychlon.

Pryder

Mae Aberporth yn cael ei ystyried yn “ganolfan ardderchowgrwydd” ar gyfer datblygu’r awyrennau di-beilot hyn, neu ‘drôns’.

Ond ers dechrau’r arbrofi gydag awyrennau di-beilot, mae sawl sefydliad wedi mynegi eu pryder ynglŷn â’r gweithgarwch milwrol yn Aberporth, gan gynnwys Undeb yr Annibynwyr.

Yn ôl yr Annibynwyr, mae’r awyrennau hyn wedi cael eu defnyddio i ladd plant mewn ardaloedd fel Pacistan a Gaza.

Mae Cymdeithas y Cymod yn dweud fod eu defnydd gan y Gorllewin i ladd arweinwyr y gelyn heb achos llys yn “anghyfreithlon heb sôn am fod yn anfoesol.”

Mae 110 o bobol wedi llofnodi’r ddeiseb ers ei dechrau, llai na phythefnos yn ôl, a bydd yn dod i ben ganol dydd ar 23 Gorffennaf eleni.