Mae’r heddlu’n apelio am dystiol yn dilyn marwolaeth pensiynwr mewn damwain car.

Cafodd y dyn 76 oed ei ladd ar ôl i’w gar Nissan Almera du daro yn erbyn coeden yn Saundersfoot, Sir Benfro ddydd Sadwrn tua 6.20pm.

Roedd y dyn yn byw’n lleol ac nid oedd unrhyw gerbydau eraill yn gysylltiedig â’r ddamwain.

Mae’r heddlu’n credu y gall y dyn fod wedi cael ei daro’n wael wrth yrru’r car ond mae nhw’n aros am ganlyniadau profion meddygol.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi annog unrhyw un sydd â gwybodaeth a all helpu’r ymchwiliad i gysylltu â nhw ar 101.