Mae angen mwy o weithredu ym maes tai fforddiadwy, yn ôl gwaith ymchwil gan bwyllgor traws-bleidiol yn y Cynulliad.
Mae adroddiad newydd gan Bwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn galw am dargedau ar gyfer adeiladu tai fforddiadwy yng Nghymru.
Daeth yr ymchwiliad gan y Pwyllgor i’r casgliad fod angen dull gweithredu mwy cynhwysfawr ym maes adeiladu tai fforddiadwy yng Nghymru.
Mae tystiolaeth sydd wedi ei gyflwyno i’r pwyllgor gan grwpiau tai, cymdeithasau tenantiaid ac adeiladwyr yn dweud fod angen “arweiniad clir” ar y pwnc gan Lywodraeth Cymru.
Nawr mae’r Pwyllgor yn argymell y dylid ailedrych ar y strategaeth tai i sicrhau ei bod yn ateb y diben, gan alw am sefydlu targedau cyffredinol ar gyfer nifer y tai sy’n cael eu hadeiladu, ac am fwy o ymdrech i ddatblygu tir sydd â chaniatad cynllunio eisoes ar gyfer tai fforddiadwy.
Argymhellion
Mae mwy na 50 o unigolion a sefydliadau wedi rhoi tystiolaeth ysgrifenedig neu ymddangos o flaen y pwyllgor, ac wedi cyfrannu at greu’r 14 argymhelliad newydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef fod “y byd wedi newid” ers cyhoeddi ei strategaeth tai diwethaf yn 2010, ac yn dweud y bydd papur gwyn ar dai yn cael ei gyhoeddi erbyn mis Mai.
Yn ôl Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor, y gobaith yw y bydd “canfyddiadau’r ymchwiliad hwn, a’r argymhellion rydym wedi eu gwneud, yn cyfrannu at y gwaith o lunio’r mesur hwnnw.
“Mae’r hyn sy’n ein rhwystro rhag darparu tai fforddiadwy yng Nghymru yn gymhleth ac yn mynnu cyfraniad a chydweithrediad llywodraethau yng Nghymru ac yn San Steffan, awdurdodau lleol, asiantaethau a chwmnïau adeiladu, ymysg cyrff eraill,” meddai.
“Ond gydag arweiniad clir gan Lywodraeth Cymru yn benodol, rydym ni’n credu bod modd goresgyn y rhwystrau hyn.”