Peter Hain
Mae Ysgrifennydd Cymru’r wrthblaid, Peter Hain, wedi galw am gysylltiad rheilffordd uniongyrchol rhwng Cymru a Maes Awyr Heathrow.
Dywedodd Aelod Seneddol Castell-Nedd bod y cysylltiad “yn un hanfodol” i Gymru, gan sicrhau bod modd teithio yn uniongyrchol i’r wlad o un o feysydd awyr prysuraf y byd.
Mae wedi galw am y cysylltiad mewn llythyr at Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth San Steffan, Justine Greening.
Mae hi wedi bod yn ystyried cynlluniau i greu rheilffordd rhwng Reading a ‘Terminal 5’ Heathrow. Fe fyddai hynny yn golygu fod modd teithio yno yn uniongyrchol o Gymru.
Roedd y rheilffordd yn “hanfodol er mwyn sicrhau bod y rhanbarth yn fwy cystadleuol, ac fe fyddai yn annog buddsoddiad i rai o ardaloedd mwyaf tlawd y Deyrnas Unedig”.
“Rydw i’n credu eich bod chi’n ystyried cynnig er mwyn caniatáu mynediad i Terminal 5 gan drenau sy’n teithio o’r gorllewin, o gyfeiriad Reading,” meddai Peter Hain yn y llythyr.
“Mae cael mynediad i Heathrow o’r gorllewin yn hanfodol i Gymru ac fe fyddwn i’n ddiolchgar os na fyddai penderfyniad terfynol nes bos cyfle i asesu’n iawn a thrafod â’r rheini sy’n gweld budd yn y cynllun.”