Mae dyn wedi ei anafu’n ddifrifol ar ôl gwrthdrawiad car yn Llanuwchllyn.
Aethpwyd a dau ddyn yn eu 20au i Ysbyty Maelor Wrecsam. Y gred yw nad ydi cyflwr y dyn a anafwyd yn ddifrifol yn peryglu ei fywyd.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A494 am 11pm ddoe.
Dywedodd yr heddlu ei fod wedi bod yn bwrw eira lle y digwyddodd y ddamwain ac mai un car oedd yn rhan o’r gwrthdrawiad.
Caewyd y ffordd am gyfnod ar ôl y gwrthdrawiad.