Bu bron i ddyn camera o Gasnewydd gael ei daflu allan o’r Tŷ Gwyn ar ôl tynnu llun o’r Arlywydd Barack Obama er mwyn cefnogi ymgyrch i brynu coesau newydd i blentyn sâl.
Mae rhieni Luca Williams o Gasnewydd, sy’n dair oed, yn gobeithio codi 1.5 miliwn er mwyn prynu coesau newydd iddo.
Collodd ei goesau wrth ddioddef o lid yr ymennydd.
Tynnodd y dyn camera Dai Baker, sy’n gweithio i ITN, lun o neges ar ei law yn dweud ‘For Luca’, â Barack Obama yn y cefndir.
Ond mae yna waharddiad ar gymryd lluniau yn y Tŷ Gwyn ac roedd gwrachodwyr yr Arlywydd yn barod i’w hebrwng oddi yno nes iddo esbonio’r ymgyrch.
Yn ddiweddarch cytunodd Barack Obama i gael tynnu ei lun â’r gŵr o Gsanewydd.
Mae sêr gan gynnwys Sebastian Vettel a Pixie Lott hefyd wedi cyfrannu at yr ymgyrch drwy gael tynnu eu llun â ’For Luca’ wedi ei ysgrifennu ar eu dwylo.
Mae’n bosib cyfrannu at ymgyrch Luca fan hyn.