Mae’r Cymry yn fwy tebygol nag unrhyw genedl arall ym Mhrydain o fynd i chwilio am newyddion lleol ar y we, a phrynu papurau lleol, yn ôl arolwg blynyddol.
Mae’r gwaith ymchwil ar sefyllfa’r wasg ym Mhrydain gan gwmni Deloitte yn dangos fod 40% o’r Cymry yn chwilio am eu newyddion lleol ar y we.
Mae 49% o’r Cymry hefyd yn prynu papur lleol yn wythnosol – ffigwr sydd dipyn uwch nag unman arall ym Mhrydain, gyda chyfartaledd o 40% ar draws gwledydd Prydain.
Mae’r ymchwil yn datgelu fod y Cymry hefyd yn fwy tebygol o wrando ar wasanaethau radio lleol nag unrhyw genedl arall ym Mhrydain, gyda 60% yn gwrando ar orsafoedd lleol bob wythnos.
Yr ymchwil diweddaraf yw’r chweched arolwg gan gwmni Deloitte ar Sefyllfa Democratiaeth y Cyfryngau, gan holi 2,276 o bobol ar draws gwledydd Prydain.
Mae’r arolwg yn dangos fod dwy ran o dair o’r rheini a holwyd ar draws Prydain yn darllen newyddion, tywydd a materion cyfoes lleol ar y we yn wythnosol o leia’ yn 2011, ond mae’r ffigwr i lawr 10% ers llynedd ar draws Prydain.
Ond roedd yr arolwg yn datgelu fod y newyddion print traddodiadol yn dal i ragori ar fersiynau digidol ym marn y darllenwyr, gydag 88% o ddarllenwyr cylchgronau yn dweud bod yn well ganddyn nhw’r fersiynau print na’r rhai digidol – canran sydd wedi aros yn ei unfan ers 2010.