Mae undeb dylanwadol wedi dweud ei fod yn bwysig ethol cynghorwyr sy’n gwrthwynebu toriadau mawr i’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn yr etholiadau lleol ar 3 Mai.
Heddiw fe fydd Unison Cymru yn lansio eu ’maniffesto’ ar gyfer yr etholiadau, gan ddweud nad torri swyddi a rhoi gwasanaethau yn nwylo cwmnïoedd preifat yw’r ffordd i ymateb i’r argyfwng ariannol.
Bydd y maniffesto ar gyfer etholiadau lleol Cymru yn cael ei lansio yn eu cynhadledd am 10.30am heddiw.
“Rydw i wir yn gobeithio y bydd ymgeiswyr lleol a phleidleiswyr yn gwrando ar gynnwys y maniffesto yma,” meddai Jane Iles, cadeirydd llywodraeth leol Unison.
“Maen amser heriol iawn ac mae angen gwasanaethau cyhoeddus effeithiol sydd wedi eu hariannu’n dda yn fwy nag erioed.
“Nid torri’n ôl ar wariant cyhoeddus yw’r ateb – yr unig ganlyniad yw mai’r bregus fydd yn dioddef fwyaf.
“Mae gan gynghorau lleol rôl hollbwysig wrth dywys Cymru allan o ddirwasgiad ac mae’n rhaid sicrhau ein bod ni’n ethol cynghorwyr sy’n gallu ysgwyddo’r cyfrifoldeb yna a herio toriadau i wasanaethau cyhoeddus.”