Clywodd cwest sut y bu seiclwr farw ar ôl colli rheolaeth ar ei feic a disgyn o flaen car.

Roedd Jason Price, 40, yn un o wyth o seiclwyr oedd yn cymryd rhan mewn taith 30 milltir ar Benrhyn Gŵyr, pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ym mis Ebrill y llynedd.

Cofnododd y cwest yn Abertawe bod y farwolaeth yn un ddamweiniol, ar ôl clywed na chafodd gyrrwr y BMW gyfle i ymateb.

Digwyddodd y ddamwain ar yr A4118 ger Nicholaston ar 6 Ebrill y llynedd. Fe fu farw Jason Price, a oedd yn gwisgo helmed, yn y fan a’r lle â sawl anaf.

Cafodd y gwrandawiad wybod bod cyfres o saith twll o fewn 33 troedfedd o’r ffordd lle y digwyddodd y ddamwain, a’u bod nhw o bosib wedi chwarae rhan yn beth ddigwyddodd.

Roedd un o’r tyllau yn ddyfnach na’r mwyaf sy’n cael ei ganiatáu dan safonau cynnal a chadw’r priffyrdd.

Ni sylwodd archwilwyr ar y twll wrth wirio’r ffordd yn ystod y mis Ionawr blaenorol.

Digwyddodd y ddamwain ar adeg pan oedd Cyngor Sir Abertawe yn newid eu dull gweithredu, ac felly nid oedd cofnodion ynglŷn â chyflwr y ffyrdd yn bodoli ar gyfer y cyfnod cyn y ddamwain.

Roedd Jason Price yn byw ar gyrion Penrhyn Gwyr ac Abertawe.

Roedd ei feic wrth gefn y grŵp o wyth pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Daeth y Crwner Phillip Rogers i’r casgliad ei fod yn debygol mai’r tyllau yn y ffordd oedd ar fai am y ddamwain.

“Rydw i’n credu ei fod yn debygol bod Mr Price wedi colli rheolaeth ar ei feic naill ai o ganlyniad i olwyn yn mynd i mewn i’r twll neu wrth geisio ei osgoi,” meddai.

Ychwanegodd nad oedd yn credu bod gan yrrwr y BMW, ffermwr rhan amser o’r enw Thomas Jenkins, “unrhyw gyfle i osgoi’r gwrthdrawiad a dydw i ddim yn credu ei fod wedi cyfrannu ato mewn unrhyw fodd”.

Disgrifiodd Thomas Jenkins sut y disgynnodd y seiclwr o dan olwynion ei gar.

“Roedd hi’n llythrennol fel pe bai wedi neidio o dan olwyn blaen y car,” meddai.

“Doedd yna ddim byd o gwbl allen i fod wedi ei wneud, heblaw am beidio â bod yno o gwbl.”