Roedd heddluoedd Cymru wedi dal bron i 2,000 o bobl yn teithio yn y car heb wregys diogelwch ym mis Mawrth.
Ar Fawrth 12 lansiodd heddluoedd Cymru ymgyrch i dargedu pobl oedd yn gyrru neu’n teithio yn y car heb wregys ac, yn ôl yr ystadegau, pobl ardal Dyfed Powys oedd fwyaf esgeulus ynghylch defnyddio gwregysau yn y car, gydag 843 o bobl yn cael eu dal.
Dyma’r niferoedd o bobl gafodd eu dal fesul ardal:
Gogledd Cymru 563
De Cymru 230
Dyfed Powys 843
Gwent 281
‘Siom’
Mae Dirprwy Brif Gwnstabl Gogledd Cymru, Ian Shannon wedi mynegi ei siom fod cymaint o deithwyr wedi cael eu dal yng Nghymru heb wregys.
“Mae tystiolaeth bod pobl yn llai tebygol o wisgo gwregys ar siwrneiau byr neu gyfarwydd, ond hyd yn oed ar siwrneiau byr a chyfarwydd ac ar gyflymderau isel mae perygl go iawn o anaf ddifrifol neu farwolaeth mewn gwrthdrawiad.”
Mae Ian Shannon yn cynghori pobl Cymru i wisgo gwregys drwy’r amser.
“Rydych yn llawer mwy tebygol o farw mewn damwain os nad ydych yn gwneud hynny”, meddai.
Gall gyrrwyr a theithwyr sydd ddim yn gwisgo gwregys wynebu cosb o £60 neu ddirwy o hyd at £500 yn y llys.