Mae pennaeth un o glybiau pêl-droed Cymru wedi rhybuddio bod Uwchgynghrair Cymru yn “sefyll yn ei hunfan”.

Dywedodd pennaeth clwb Llanelli, Nigel Richards, fod angen i Gymdeithas Bêl-droed Cymru fuddsoddi arian er mwyn hyrwyddo Uwchgynghrair Corbett Sports, a rhybuddiodd bod diffyg ymwybyddiaeth o’r gynghrair ar lawr gwlad yng Nghymru.

“Does dim amgyffred gan bobol Cymru o’r gynghrair”, meddai Nigel Richards.

“Gallwch chi ddefnyddio Twitter a Facebook a phethau fel’ny i hyrwyddo’r gemau, ond os nad yw pobol yn connecto gyda’r gynghrair yna down nhw ddim.”

Mae uwchgynghrair bêl-droed Cymru yn dathlu ei phenblwydd yn 20 oed eleni ac mae un o bwyllgorau’r Cynulliad ar hyn o bryd yn cynnal ymchwiliad i sefyllfa a dyfodol yr uwchgynghrair.

‘Ddim yn berffaith ond mae dyfodol iddi’

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru newydd benodi Gwyn Derfel i fod yn ysgrifennydd yr uwchgynghrair.

“Dyw’r gynghrair ddim yn berffaith ond baswn i ddim wedi derbyn y swydd taswn i ddim yn gweld apêl amlwg i’r gynghrair a dyfodol iddi.

“Mae gemau’n denu dros 300 o bobl ar gyfartaledd eleni, sef y ffigwr ail uchaf ers i’r gynghrair gael ei sefydlu ugain mlynedd nôl.”

Gellir darllen mwy am y stori yma yn rhifyn Golwg yr wythnos hon.