Robert Croft
Fe fydd Morgannwg yn croesawu Swydd Derby heddiw yn ei gêm gartref cyntaf y tymor hwn ym mhencampwriaeth siroedd yr LV gan gychwyn am 11 o’r gloch y bore yma.
Bydd Morgannwg yn sicr am ddial ar ei gwrthwynebwyr ar ôl iddyn nhw golli dwywaith y llynedd yn y bencampwriaeth yn erbyn Swydd Derby.
Mis Mehefin yn 2003 oedd y tro diwethaf i Forgannwg guro Swydd Derby, diolch i berfformiad anhygoel gan Robert Croft, ar ôl iddo gipio chwe wiced am 71 o rediadau.
Dywedodd troellwr profiadol Morgannwg Robert Croft, bod gan Forgannwg gêm galed o’i blaenau.
Bydd Will Owen yn cael ei gynnwys yn y garfan o 12 dyn, gan gymryd lle Huw Waters.
Dyma’r garfan-
G Rees, S Walters, W Bragg, B Wright, M Henriques, J Allenby, M Wallace, G Wagg, R Croft, W Owen, D Cosker and M Reed.