Siop Peacocks Caerdydd
Fe aeth 15% yn fwy o gwmniau i ddwylo’r gweinyddwyr yng Nghymru a Lloegr yn ystod chwarter cynta’r flwyddyn nag yn ystod yr un cyfnod y llynedd, meddai ymgynghorwyr busnes Deloitte.

Roedd cwmni dillad Peacocks, oedd a’i bencadlys yng Nghaerdydd, ymysg 69 o gwmniau a aeth i ddwylo’r gweinyddwyr, o’i gymharu â 60 y llynedd.

Collodd 10,000 o weithwyr eu swyddi o ganlyniad i fethiant y busnesau. Roedd Game, Blacks, Past Times a La Senza hefyd ymysg y cwmniau aeth i ddwylo’r gweinyddwyr.

Dim ond 42 cwmni aeth i ddwylo’r gweinyddwyr yn ystod chwarter olaf 2011, meddai Deloitte.

Ychwanegodd Deloitte bod gormod o siopau nad oedd yn gwneud digon o elw yn ffactor pwysig wrth ystyried sut y methodd nifer o fusnesau yn y chwarter cyntaf.

“Wrth i siopa ar-lein dyfu tra bod gwariant mewn siopau yn parhau’n isel, cafodd nifer o fusnesau eu llusgo i lawr gan berfformiad gwael gan ambell i siop,” meddai Lee Manning o Deloitte.

“Er mwyn parhau’n gystadleuol mae angen iddyn nhw ail-feddwl sut y maen nhw’n cynnal eu busnesau er mwyn gallu ymateb yn gynt i alwadau cwsmeriaid.”