Aethpwyd ag un dyn i’r ysbyty ar ôl i gar wrthdaro â phostyn lamp yn Nhreharris, ger Merthyr Tudful.

Digwyddodd y gwrthdrawiad y tu allan i Bwll Nofio Edwardsville toc cyn 8.30am y bore ma.

Galwyd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yno. Aethpwyd a’r claf i Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Dylai unrhyw lygaid dystion ffonio 101.