Llyfr Esgobol Bangor (Llun Prifysgol Bangor)
Bydd gwasanaeth cysegru a bendithio arbennig yn cael ei gynnal yng Nghadeirlan Bangor heddiw i ddathlu dychweliad Llyfr Esgobol Bangor.
Mae’r llyfr a700 oed wedi dychwelyd o’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ar ôl cael ei drwsio a’i ail-greu ar ffurf digidol.
Talwyd am y gwaith gydag arian a godwyd gan Brosiect Llyfr Esgobol Bangor, a lansiwyd yn 2009. Fe fydd y llyfr yn cael ei gadw er diogelwch yn Archif Prifysgol Bangor.
Llawysgrif unigryw o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg sy’n eiddo i’r Gadeirlan yw’r Llyfr Esgobol.
Mae’r gwasanaeth yn gyfle prin i weld Llyfr Esgobol Bangor yn yr adeilad sy’n gysylltiedig â’r llyfr ers bron i 700 mlynedd, a chael clywed ei eiriau a’i gerddoriaeth mewn cyd-destun cyfoes.
Caiff y llyfr ei dderbyn gan Ddeon Bangor, y Tra Pharchedig Alun Hawkins, a’i fendithio gan Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andrew John.
Bydd Côr y Gadeirlan, schola o ferched o’r Brifysgol a chantor proffesiynol yn canu yn ystod y gwasanaeth.
Mae llawer o’r alawon plaengan o Lyfr Esgobol Bangor wedi eu trawsgrifio o’r newydd ar gyfer y gwasanaeth, a dim ond yn Llyfr Esgobol Bangor y mae dau ohonynt ar gael.
Byddy Llyfr Esgobol yn cael ei fendithio gyda geiriau bendith o’r Canol Oesoedd, a gyfieithwyd ac addaswyd o lawysgrif oedd yn eiddo i Edmund Lacy, Esgob Caerwysg rhwng 1420 a 1455.