Archesgob Cymru, Barry Morgan
Mae Archesgob Cymru wedi galw ar bobol i garu ei gilydd a herio anghyfiawnder a rhyfel, yn ei neges ar Sul y Pasg.

Dywedodd fod Duw wedi rhoi sêl bendith i ffordd Iesu Grist o fyw drwy ei atgyfodi.

“Roedd yr atgyfodiad yn dangos fod Duw yn dweud ‘ie’ i sut yr oedd Iesu yn byw ei fywyd,” meddai.

“Pe bai Duw wedi atgyfodi y Brenin Herod neu Pontius Pilat fe fyddai wedi dilysu tueddiadau gwaethaf y ddynoliaeth.

“Ond wrth atgyfodi Iesu dilysodd ei werthoedd Ef, sef maddeuant, trugaredd, a gorfoledd gwasanaethu.

“Roedd Iesu yn gwahodd pobol i’w ddilyn Ef, hyd yn oed os oedden nhw wedi syrthio’n ddwfn i mewn i bechod.

“Does neb, beth bynnag eu pechodau, y tu hwnt i’w gariad Ef.

“Mae Iesu yn addewid i ni fod cariad yn bwysicach na marwolaeth ac nad yw’r Creawdwr wedi troi cefn ar ei fyd.

“Mae wedi ysgwyddo baich poen a chywilydd y byd a chreu rywbeth newydd.

“Rhaid i ni weithredu yn erbyn newyn, rhyfel, trais ac amddifadedd – pethau sy’n difetha delwedd Duw ac yn anffurfio ei fyd.”