Bu’n rhaid achub chwech o bobol oedd ar eu gwyliau ar ôl iddyn nhw gael eu dal gan y llanw ger pentref Rhosili.
Achubwyd y bobol gan sefydliad brenhinol y badau achub ar ôl i wylwyr y glannau Abertawe gael gwybod eu bod nhw yno.
Roedd y bobol wedi croesi sarn sydd yn saff i’w groesi am 2.5 awr yn unig pan mae’r llanw ar drai.
Am 4.25 ddoe cafodd Gwylwyr y Glannau Abertawe wybod bod sawl person wedi croesi yn gynharach ond heb ddychwelyd, a bod y llanw bellach wedi gorchuddio’r sarn.
Achubwyd chwech o bobol rhwng 20 a 30 oed ac aethpwyd â nhw yn ôl i’r lan yn saff.
“Roedd y tywydd braf heddiw yn golygu bod nifer fawr o bobol wedi penderfynu croesi’r sarn,” meddai Will Parfitt o wylwyr y glannau Abertawe.
“Yn anffodus doedd rhai o’r bobol heb dalu sylw i’r rhybuddion ynglŷn â’r llanw a heb lwyddo i groesi’n ôl i’r tir mawr heb gymorth.”