Cyfarwyddwr enwocaf yr FBI, J Edgar Hoover, fu'n arwain y gwasanaeth rhwng 1924 ac 1972
Mae gwefan yr FBI, asiantaeth cudd-wybodaeth enwog llywodraeth America, bellach ar gael yn y Gymraeg.

Gan esbonio bod y wefan ar gael mewn 50 o wahanol ieithoedd trwy Google Translate, dywed y dudalen hafan:

“Dim ond rhan o’n hymdrechion parhaus i wneud FBI.gov haws i’w defnyddio ac yn hygyrch i ddarllenwyr o gwmpas y byd … mae’n byd bach wedi’r cyfan.”

I’r perwyl hwn, mae popeth ar y wefan, gan gynnwys pob datganiad i’r wasg, yn cael ei droi’n awtomatig i’r Gymraeg wrth wneud y dewis.

Nid bod y cyfieithiadau’n arbennig o eglur bob amser, fel y disgrifiad hwn o dan y teitl ‘Ein Cenhadaeth’:

“Fel cudd-wybodaeth gyrru a diogelwch cenedlaethol sy’n canolbwyntio ar bygythiad a threfniadaeth gorfodi’r gyfraith, cenhadaeth yr FBI yw diogelu ac amddiffyn yr Unol Daleithiau yn erbyn bygythiadau terfysgol cudd-wybodaeth a thramor …”

O gofio hanes brith yr FBI, mae’n bosibl fod lle i amau rhai o’r gosodiadau yn yr adran ‘Ein Gwerthoedd Craidd’ hefyd:

  • Ufudd-dod trylwyr i’r Cyfansoddiad yr Unol Daleithiau;
  • Gonestrwydd ddigyfaddawd personol a gonestrwydd sefydliadol;
  • Atebolrwydd gan dderbyn cyfrifoldeb am ein gweithredoedd a’n penderfyniadau a chanlyniadau ein gweithredoedd a’n penderfyniadau.

Gellir darllen mwy ar http://www.fbi.gov/news/news_blog/translation_040512