Mae cystadleuaeth flynyddol boblogaeth ymysg cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru’n cychwyn yr wythnos yma.

Y llynedd, enillodd 119 o gynhyrchwyr yr ennill yr hawl i ddefnyddio’r brand ‘y gwir flas’ wrth hyrwyddo’u bwyd a’u diod.

Bellach, mae’r enwebiadau wedi agor ar gyfer Gwobrau Bwyd a Diod Cymru – y Gwir Flas 2012.

Mae’r fenter hon gan Lywodraeth Cymru’n dathlu a hyrwyddo cynnyrch a chynhyrchwyr gorau Cymru. Dathlodd y fenter ei 10fed pen-blwydd yn 2011, a bydd digwyddiad eleni’n cyrraedd ei uchafbwynt mewn seremoni ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ar 25 Hydref 2012. Dyma’r tro cyntaf y bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn y Canolbarth, ac mae disgwyl y bydd tua 500 o bobl yn bresennol.

Gellir cyflwyno enwebiad ar-lein rhwng nawr ac 11 Mai ar www.cymruygwirflas.co.uk Mae manylion llawn o’r gwahanol wobrau i’w cael hefyd ar y wefan.