Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw ystyried a dylid galw’r cais dadleuol am archfarchnad Sainsbury’s newydd yn Llandeilo i mewn.

Cadarnhaodd y Llywodraeth wrth Golwg 360 eu bod nhw wedi derbyn ceisiadau i alw’r cynllun i mewn, a’u bod nhw bellach yn ystyried y ceisiadau hynny.

Mae’r cynlluniau yn ymwneud â chais i godi’r archfarchnad fwyd, iard gwasanaeth, maes parcio, heol mynediad newydd, gorsaf betrol, a datblygiadau pellach i’r gorllewin o Ystad Ddiwydiannol Beechwood yn Llandeilo.

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth Cymru eu bod “wedi derbyn ceisiadau i alw’r cais i mewn … a bod y ceisiadau hynny yn cael eu hystyried ar hyn o bryd.”

Mae’r cynlluniau, a gymeradwywyd gan Gyngor Sir Gaerfyrddin o 11 pleidlais i un, gyda thri yn ymatal, wedi cythruddo rhai pobol busnes lleol.

‘Effaith andwyol’

Yn ôl Simon Buckley, sy’n ddyn busnes lleol ac yn gwrthwynebu’r datblygiad, fe fyddai’r archfarchnad newydd yn effeithio’n andwyol ar fusnesau lleol.

“Dwi ddim yn erbyn Sainsbury’s fel cwmni gwerthu, ond dwi yn gwrthwynebu Sainsbury’s yn Llandeilo,” meddai.

“Y gwir amdani yw y bydd siopau’n cau ac y bydd pobol yn colli eu swyddi.”

Mae’r Aelod Seneddol Lleol, Jonathan Edwards, a’r Aelod Cynulliad, Rhodri Glyn Thomas, hefyd wedi galw am wrthod y cais, oherwydd yr effaith posib ar fusnesau lleol.

Ond mae rhai yn lleol, gan gynnwys y Cynghorydd lleol, Goronwy Jones, yn cefnogi’r datblygiad, gan ddweud y byddai’r archfarchnad yn dod â swyddi angenrheidiol i Landeilo.

Mae Sainsbury’s yn addo creu hyd at 250 o swyddi rhan amser a llawn amser os yw’r archfarchnad yn cael ei hadeiladu.

Cafodd archfarchnad Sainsbury’s arall yn Sir Gaerfyrddin, ar gyfer Crosshands, ei chymeradwyo’n unfrydol gan y Cyngor ddydd Iau diwethaf, ond gwrthodwyd cais am dredydd archfarchnad gan y cwmni yn Rhydaman.