Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn rhybuddio eu bod nhw’n mynd yn fwyfwy pryderus am lefelau’r dwr yn afonydd Cymru, yn enwedig yn y de-ddwyrain.
Roedd y glaw a ddisgynnodd yng Nghymru ym mis Mawrth yn llai na thraean yr hyn yw ar gyfartaledd. Gyda 29% o’r glawiad arferol y mis diwethaf roedd sychder cymharol Cymru’n is na’r hyn oedd yn unrhyw un o ranbarthau Lloegr. Roedd y gyfran yn cymharu â 38% ar gyfer Cymru a Lloegr gyda’i gilydd.
Mae’r Asiantaeth yn apelio ar bobl i fod mor ddarbodus ag sy’n bosibl wrth ddefnyddio dŵr.
“Mae pob diferyn a ddefnyddiwn yn cael ei gyflenwi trwy’n afonydd, felly mae’r hyn a wnawn yn cael effaith uniongyrchol ar yr amgylchedd lleol,” meddai Chris Mills, Cyfarwyddwr Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.
“Er bod ein cronfeydd dŵr yn llawn neu bron yn llawn, mae rhai afonydd ar eu lefelau isaf erioed ar gyfer y rhan hon o’r flwyddyn, ac rydyn ni’n bryderus y bydd ansawdd y dŵr a bywyd gwyllt yn dioddef os bydd y tywydd sych yn parhau trwy’r gwanwyn a dechrau’r haf.”
Ychwanegodd hefyd fod lefelau isel y dŵr yn achosi problemau i rywogaethau pwysig fel yr eog a’r sewin wrth iddyn nhw fudo i ddodwy, heb sôn am ddwysáu effeithiau llygredd ar fywyd gwyllt yn gyffredinol.
Dim dŵr o Gymru i helpu sychder Lloegr
Yn y cyfamser, dywed Dŵr Cymru fod eu cronfeydd yn 90% llawn ar hyn o bryd, yn wahanol i rannau o dde Lloegr lle mae gwaharddiad ar ddefnyddio pibellau dyfrhau o heddiw ymlaen oherwydd lefelau isel cronfeydd dŵr yno.
Yn ôl cwmni Anglian Water, fe fydd angen “wythnosau ac wythnosau o law” cyn bod y gwaharddiad yn gallu dod i ben.
Dywed Dŵr Cymru fodd bynnag ei bod hi’n annhebyg y byddan nhw’n gorfod dargyfeirio dŵr o Gymru i helpu’r rannau o Loegr sy’n dioddef sychder.
Roedd rhai wedi galw am gludo dŵr o rannau gwlypach Prydain i dde-ddwyrain poblog Lloegr, sydd wedi cael dwy flynedd anghyffredin o sych, ond pwysleisiodd Dŵr Cymru mai blaenoriaeth y cwmni yw “diwallu anghenion ein cwsmeriaid ein hunain”.
Mewn datganiad ychwanegodd y cwmni: “Mewn egwyddor, rydym yn cefnogi trosglwyddo dŵr i ranbarthau eraill os yw o fudd i’n cwsmeriaid ac nad yw’n effeithio’n andwyol ar amgylchedd Cymru”.
‘Pwnc hynod o wleidyddol’
Esboniodd Dŵr Cymru fod cludo dŵr yn “dechnegol anodd ac yn eithriadol o ddrud” ac y byddai angen cynllunio hir-dymor cyn y byddai modd i ddŵr o Gymru gael ei ddargyfeirio i dde-ddwyrain Lloegr.
“Mae dŵr wedi bod yn bwnc hynod o wleidyddol yng Nghymru, ac fe fyddem yn dychmygu y byddai’n rhaid i unrhyw benderfyniad ynghylch storio a chyflenwi adnoddau dŵr yn y dyfodol gael cefnogaeth Llywodraeth Cymru a phobl Cymru.”