Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud heddiw eu bod nhw’n edrych ymlaen at gydweithio gyda grŵp newydd sy’n cael ei sefydlu i lobïo tors y Gymraeg.

Wrth ymateb i’r newyddion y bydd grŵp newydd i hyrwyddo’r Gymraeg yn cael ei lansio erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, dywedodd llefarydd eu bod yn croesawu unrhyw fudiad newydd fyddai’n hyrwyddo achos y Gymraeg.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gydag unrhyw fudiad iaith newydd,” meddai, cyn awgrymu fod peth o’i waith eisoes ar droed.

“Gobeithio y bydd y mudiad newydd yn ymuno â’r rhwydwaith o fudiadau iaith sydd eisoes ar waith – Mudiadau Dathlu’r Gymraeg,” meddai’r llefarydd.

“Mae’r grŵp ymbarél yna wedi sefydlu Grŵp Trawsbleidiol dros y Gymraeg yn y Cynulliad yn ddiweddar ac yn gwneud gwaith ardderchog yn pwyso ar wleidyddion y gallai unrhyw fudiad newydd ychwanegu ato.”

Y cefndir

Heddiw, fe ddatgelodd Golwg 360 bod cynlluniau ar waith i sefydlu grŵp newydd i hyrwyddo’r Gymraeg.

Bydd y grŵp newydd, sy’n dewis aros yn ddienw am y tro, yn canolbwyntio ar dair prif faes, sef polisi, lobïo a hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg.

Mae galwadau wedi bod ers blynyddoedd bellach am greu corff lobïo newydd dros y Gymraeg, yn enwedig yn sgil datganoli grymoedd dros yr iaith i’r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’r galwadau wedi arwain at lawer yn dweud y dylai Gymdeithas yr Iaith newid eu tactegau, ond mae’r Gymdeithas yn mynnu bod eu hymgyrchoedd eisoes yn mynd law yn llaw â’r gwaith o lobïo a phwyso ar wleidyddion.