Fe fyddai athrawon yng Nghymru’n cael cyflogau is nag athrawon yn Lloegr, os bydd y Llywodraeth yn Llundain yn cael gwared ar gytundebau cyflog ‘cenedlaethol’.
Mae yna beryg hefyd y bydd athrawon yn gadael Cymru i weithio yn Lloegr, meddai pennaeth un o’r undebau addysg sydd wedi cynnal arolwg ymhlith ei aelodau.
Roedd mwy na 70% o aelodau undeb yr ATL – undeb yr athrawon a’r darlithwyr – yng Nghymru yn erbyn bwriad Llywodraeth y Glymblaid i greu trefn o gyflogau rhanbarthol sy’n adlewyrchu amgylchiadau economaidd lleol.
Ac roedd 53% yn dweud y byddai amrywiaeth cyflogau yn dylanwadu ar eu penderfyniad i weithio yn Lloegr neu Gymru.
Yn ôl yr undeb, mae yna bryderon hefyd y gallai trefn ranbarthol arwain at annhegwch yn erbyn athrawon hŷn ac y gallai athrawon mewn pynciau heblaw Saesneg, Gwyddoniaeth a Mathemateg fod yn diodde’ hefyd.
Honiadau’r undeb
“Mae’r ATL yn hollol yn erbyn cyflogau rhanbarthol,” meddai Cyfarwyddwr yr undeb yng Nghymru, Philip Dixon.
“Rydyn ni’n gwybod mai ymgais amrwd yw hon i dorri cyflogau athrawon ac y byddai’n golygu bod athrwon yng Nghymru’n cael llai am wneud yr un gwaith â chydweithwyr mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.
“Os bydd hyn yn cael ei orfodi gan San Steffan, fe allen ni weld llif o bobol alluog tros y ffin a phrinder athrawon mewn rhai rhannau o’r wlad.”