Hofrennydd achub
Fe fydd y gwaith yn dechrau’r bore yma i geisio achub llong sydd wedi mynd ar greigiau ger glannau’r Gogledd.
Fe gafodd saith o forwyr o Wlad Pwyl eu tynnu oddi arni yn ystod y nos, wrth i ddau gwch achub a dau hofrennydd achub frwydro yn erbyn gwyntoedd cry’ a thonnau mawr.
Yn awr mae pryder y gallai 40,000 o litrau o olew ollwng o’r llong, sy’n 82 metr o hyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn “cadw llygad” ar yr hyn sy’n digwydd.
Yn ôl gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru, mae ffordd yr A55 ar gau i’r ddau gyfeiriad yn yr ardal ac fe allai fod ar gau am oriau eto.
Galw Gwylwyr y Glannau
Ychydig wedi wyth o’r gloch neithiwr y cafodd Gwylwyr y Glannau eu galw i’r digwyddiad ger glanfa yn Llanddulas.
Roedd y llong, y Carrier, wedi mynd i drafferthion yn y stormydd yno wrth gario llwyth o gerrig.
Fe gafodd hofrennydd Sea King o ganolfan y llynges yn Prestwick ond, ar ôl trafferthion peirianyddol, fe fu’n rhaid galw un o hofrenyddion yr RAF hefyd.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau bod gwyntoedd Nerth 9 yn chwythu ar y pryd, gyda thonnau o 5 metr.
Fe fydd ymchwiliad yn dechrau hefyd i geisio deall pam fod y llong wedi mynd i drafferthion.