Mae beiciwr 42 oed wedi cael ei ladd mewn damwain ffordd yn Sir y Fflint prynhawn ddoe.
Bu farw’r dyn ar ôl y ddamwain yn Ffordd Linthorpe, Bwcle, pan fu car Hyundai Getz a beic Suzuki mewn gwrthdrawiad.
Aethpwyd â’r teithiwr 16 oed oedd ar y beic i’r ysbyty yng Nghaer ac mae mewn cyflwr sefydlog ar hyn o bryd.
Roedd y dyn a fu farw yn byw yn lleol.
Does dim mwy o wybodaeth ar gael ar hyn o bryd.