Bydd Carwyn Jones yn lansio'r cynllun heddiw
Bydd cynllun i greu 12,000 o swyddi dros-dro yn cael ei lansio heddiw gan Lywodraeth Cymru.

Mae Twf Swyddi Cymru yn bwriadu hybu cyfleoedd gwaith i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed trwy gynnig gwaith iddyn nhw am gyfnod o chwe mis.

Mae’r cynllun ar gyfer y rheiny sy’n awyddus i weithio ond sydd wedi methu cael hyd i waith, medd swyddogion, ac mae’n gwarantu’r isafswm cyflog cenedlaethol a dros 25 awr o waith yr wythnos i’r unigolion sy’n rhan ohono.

“Mae’r hinsawdd ariannol bresennol wedi cadw nifer o bobl 16 i 24 oed mas o fyd gwaith ac addysg,” meddai Jeff Cuthbert AC, Dirprwy Weinidog Sgiliau Llywodraeth Cymru.

“Bydd Twf Swyddi Cymru yn rhoi’r cyfle i unigolion gael profiad gwaith ac i symud ymlaen i waith parhaol neu brentisiaeth. Bydd mwyafrif y gwaith yn cael ei ddarparu gan y sector preifat ond bydd rhai swyddi o fewn y sector wirfoddol hefyd.”

Yn dilyn cynllun peilot “llwyddiannus,” ychwanegodd Jeff Cuthbert fod amrywiaeth o fusnesau wedi dangos diddordeb mewn bod yn rhan o’r cynllun, o gwmni yswiriant Admiral i gwmni sgaffaldau TB Davies o Benybont.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog y bydd tair ffrwd yn cael eu targedu fel rhan o’r cynllun, sef graddedigion, busnesau bach iawn a swyddi “gwyrdd”.

Bydd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn lansio’r cynllun y bore ʼma yn ystod ymweliad â chwmni Scarlet Communications yng Nghaerfyrddin.

Roedd Twf Swyddi Cymru yn rhan o faniffesto etholiadol y Blaid Lafur a phan gyhoeddwyd y cynllun y llynedd dywedodd Carwyn Jones y bydd y cynllun yn “creu cyfleoedd gwaith i bobl ifanc, sydd wedi dioddef yn fwy na neb yn y dirwasgiad, ac yn creu swyddi newydd a fydd yn helpu busnesau Cymru i ehangu”.