Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio ar ôl i ddyn gael ei drywanu ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych.

Galwyd yr heddlu i gyfeiriad yn Heol y De ym Mhrestatyn am 10 o’r gloch neithiwr.

Credir bod nifer o bobl wedi mynd mewn i’r adeilad ac wedi ymosod ar ddyn yno gydag arf â llafn iddo.

Aethpwyd â’r dyn 28 oed i Ysbyty Glan Clwyd lle mae’n derbyn triniaeth am ei anafiadau.

Does dim mwy o wybodaeth ar hyn o bryd.