Castell Caernarfon
Mae amgueddfa forwrol Caernarfon wedi cloi ei drysau am y tro olaf, wrth i’r ymddiriedolaeth elusennol sy’n gyfrifol amdani ddod i ben.
Roedd amgueddfa forwrol Seiont yn Noc Fictoria yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr, ond maen nhw’n dweud bod y pwysau ariannol wedi mynd yn ormod iddyn nhw.
Mae disgwyl i Gyngor Gwynedd gymryd cyfrifoldeb am fwyafrif y creiriau, ond bydd llawer o’r darnau sydd yno ar fenthyg yn cael eu dychwelyd i’w perchnogion.
Mae’r ymddiriedolaeth yn dweud mai costau rhedeg yr amgueddfa a’r methiant i ddenu digon o incwm sydd ar fai am y penderfyniad i gau.
Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor heddiw fod y newyddion yn siom, ond eu bod yn deall pam wnaed y penderfyniad.
“Fel Cyngor rydyn ni’n amlwg wedi ein siomi gan y penderfyniad sydd wedi cael ei wneud i roi’r gorau i weithgareddau Amgueddfa Forwrol Seiont,” meddai.
“Serch hyn, rydym hefyd yn ymwybodol o’r anawsterau oedd yn wynebu’r amgueddfa.”
Yn ôl yr ymddiriedolaeth, roedd yr yswiriant yn costi £1,000 y flwyddyn, ond dim ond £200 oedd yn dod i’r coffrau bob blwyddyn trwy dâl mynediad.
Diogelu creiriau
Mae’r Cyngor yn dweud y byddan nhw’n rhoi’r creiriau yng ngofal Gwasanaeth Amgueddfeydd Cyngor Gwynedd, ond bod cynlluniau posib eraill ar y gweill.
“Mae trafodaethau yn mynd yn eu blaen ynglŷn â’r posibilrwydd o arddangos detholiad o’r creiriau o fewn rhwydweithiau Amgueddfeydd ac Orielau Gwynedd, a allai gynnwys Oriel Pendeitsh yng Nghaernarfon, Amgueddfa Gwynedd ym Mangor ac Archifdy Caernarfon,” meddai’r llefarydd.
“Y prif fater i’r Cyngor yw bod y creiriau yn cael eu cynnal a’u cadw i safon dderbyniol.”