Bydd Stadiwm y Mileniwm yn dywyll heno
Bydd Stadiwm y Mileniwm yn dywyll fel y fagddu heno am 8.30 wrth i’r Stadiwm gefnogi Awr y Ddaear mudiad Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF).

Bydd y goleuadau yn y Stadiwm yn cael eu diffodd am awr  rhwng 8.30 a 9.30 heno i ddangos cefnogaeth i’r ymgyrch yn erbyn newid hinsawdd.

Dywedodd Darren Crossman, Rheolwr Adnoddau’r Stadiwm, eu bod yn hapus i gefnogi’r fenter hon sy’n cydnabod bod yr hyn yr ydym yn ei wneud – o’r ynni a ddefnyddiwn, i’r bwyd yr ydym yn ei brynu a’r dŵr yr ydym yn ei yfed – yn cael effaith ar y byd.

“Mae Stadiwm y Mileniwm yn falch iawn o fod yn cymryd rhan yn Awr y Ddaear gan ledaenu’r neges am sut mae’r ffordd yr ydym yn trin ein planed heddiw yn mynd i effeithio ar gymunedau a llefydd yn y dyfodol,” meddai.

“Rydym yn cymryd materion amgylcheddol o ddifri yn y Stadiwm ac rydym am annog ein holl glybiau rygbi , cefnogwyr a phobl Cymru i gymryd rhan trwy ddiffodd eu golau am awr yn unig i weithredu ar newid hinsawdd.”

Bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, a Chastell Caerdydd hefyd yn diffodd eu goleuadau heno, ac mi fydd disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James yn arwain taith gerdded yng ngolau cannwyll drwy Bontypridd fel rhan o Awr y Ddaear. Fe wnaethon nhw ennill cystadleuaeth stori fer a drefnwyd gan y WWF.

“Mae ennill y gystadleuaeth hon yn wych,” meddai Pennaeth yr Ysgol, Moria Greaney. “Rydym yn falch iawn o’r gwaith sy’n cael ei wneud yma bob dydd i addysgu’r plant am bwysigrwydd cymryd gofal o’n planed.

“Rydym yn gobeithio gallu bod yn ysbrydoliaeth i eraill yn ein cymuned leol ac ar draws y DU.”

Dywedodd Pennaeth WWF Cymru, Anne Meikle, bod cais Ysgol Evan James wedi bod yn wych.

“Roeddem yn hynod o falch o’r creadigrwydd sy’n cael ei ddangos gan yr ysgol,” meddai.

“Mae Awr y Ddaear yn ymwneud â dod â’r gymuned at ei gilydd i ddathlu’r byd a dyheadau cymunedau lleol am ddyfodol llachar.”

Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, hefyd wedi datgan ei chefnogaeth i Awr y Ddaear.

“Mae gan bawb ran i’w chwarae mewn mynd i’r afael â newid hinsawdd, a thra byddwn yn dwyn pwysau ar lywodraethau ar bob lefel i ddeddfu er mwyn newid, gallwn hefyd gymryd camau bychain yn ein bywydau beunyddiol a fydd, gyda’i gilydd, yn cael cryn effaith. Dyna neges Awr y Ddaear, a’m neges innau hefyd.”