Porthmadog
Mi fydd ymgyrchwyr sy’n gwrthwynebu’r newidiadau i gartref i’r henoed lleol yn gorymdeithio ym Mhorthmadog heddiw.

Cyfeillion Hafod y Gest sydd wedi trefnu’r brotest. Maen nhw am weld gofal preswyl yn parhau ar y safle er bod Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno cynlluniau i newid y cartref yn fflatiau hunangynhaliol.

“Rydan ni’n pryderu bod Cyngor Gwynedd eisiau gwneud tua 40 o fflatiau hunangynhaliol ar y safle ac y byddai gofal preswyl yn cael ei golli yn y cartref,” meddai Martha Hughes o Gymdeithas Cyfeillion Hafod y Gest.

“Ry’n ni’n teimlo nad ydy’r Cyngor yn ystyried beth mae trigolion y cartref eisiau.,” ychwanegodd. Roedd yn cydnabod er hynny bod angen adnewyddu’r cartref ar ei ffurf bresennol.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd bod cyfarfod o’r Cyngor llawn ym mis Rhagfyr y llynedd wedi gwrthod argymhellion oedd yn cynnwys dod â defnydd Hafod y Gest fel cartref preswyl i ben, a datblygu tai gofal ychwanegol ar y safle.

“Cytunodd y Cyngor i fynd yn ôl i drafod yn dryloyw a thrwyadl er mwyn sicrhau darpariaeth sy’n addas ar gyfer gofynion a dyheadau’r gymuned, a dod ag adroddiad llawn yn ôl i’r Cyngor ymhen chwe mis,” meddai.