Mae Carl Sergeant, y Gweinidog yn Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am drafnidiaeth, wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o’r Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol a’r diwydiant bws yng Nghymru, i drafod ffordd newydd i gefnogi gwasanaethau bws y wlad.

Mae’r gweinidog wedi cytuno i barhau i gyllido’r diwydiant ac awdurdodau lleol ar y lefel bresennol hyd at chwe mis, ar yr amod bod symud ymlaen yn digwydd ar y cynllun i ddyfeisio system drafniaeth bws newydd fydd yn canolbwyntio ar wasanaethau yn hytrach na’r system bresennol sydd wedi ei seilio ar y defnydd o danwydd.

“Rydym wedi cael trafodaeth fanwl ac agored ar sut y gallwn fwrw mlaen,” meddai Carl Sergeant. “Er bod anghytundeb, dwi’n hyderus y gallwn gyrraedd y nod gydag ewyllys da a gwaith caled. Mi wnes i’n glir does dim lleihad wedi bod yn yr arian mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar gyfer y diwydiant bws, a thra y bydd y trafodaethau hyn yn  parhau mewn ffordd gynhyrchiol, bydd dim toriad yn y gefnogaeth dros y chwe mis nesaf.

“Mae Llywodraeth San Steffan wedi torri’r adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn llym sydd wedi rhoi pwysau mawr ar ein cyllideb drafnidiaeth. Rydym yn benderfynol o ddarparu’r gwasnaethau bws gorau posib yng Nghymru ond mae hyn yn golygu gwneud pethau’n wahanol.”

Meddai Michael Morton, Cadeirydd y Conffederasiwn Trafnidiaeth Teithwyr, “Mae cwmnïau bysiau wedi ymrwymo’n llwyr i ddarparu rhwydwaith bws cynaliadwy, effeithlon ar draws Cymru ac rydym yn falch o gael y cyfle i fod yn rhan o’r ddeialog rhwng ein partneriaid yn Llywodraeth Cymru a’r Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol.”