Liam Stacey
Mae myfyriwr a gafodd ei garcharu am gyhoeddi negeseuon sarhaus am y pêl-droediwr Fabrice Muamba ar Twitter wedi colli ei apêl yn erbyn ei ddedfryd.
Cafodd apêl Liam Stacey, 21, o Bontypridd ei wrthod yn Llys y Goron Abertawe heddiw.
Roedd wedi ei garcharu am 56 diwrnod ar ôl cyhoeddi ymosodiad hiliol ar wefan Twitter.
Roedd y myfyriwr bioleg ym Mhrifysgol Abertawe wedi cyhoeddi sawl neges, gan gynnwys un oedd yn dweud ‘LOL. F*** Muamba. He’s dead!!!”
Cyhoeddwyd y neges yn fuan ar ôl i chwaraewr canol cae Bolton ddioddef trawiad ar y galon yn ystod gêm yng Nghwpan yr FA ar 17 Mawrth.
Beirniadwyd Liam Stacey yn syth gan drydawyr eraill, ond ymatebodd â llifeiriant o negeseuon hiliol.
Roedd cefnogaeth helaeth i ddedfryd Liam Stacey ar Twitter, ond roedd lleiafrif yn dadlau fod y llys wedi gwneud esiampl ohono.