Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru wedi galw am ddatganoli’r grym i fenthyca’ arian i’r Senedd.
Mewn araith heddiw dywedodd Carwyn Jones na fydd Cymru yn gallu ariannu prosiectau isadeiledd mawr heb yr arian.
Dywedodd fod angen benthyca arian er mwyn talu am wella’r M4 yn ardal Port Talbot. Roedd tagfeydd yn debygol yno yn y dyfodol, meddai.
Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am y gallu i fenthyca’ arian fel rhan o ddiwygiadau i’r modd y mae’n cael ei ariannu.
“Yr unig fodd o wneud hyn yw drwy fenthyca arian,” meddai Carwyn Jones wrth gynhadledd ar ddatganoli yng Nghaerdydd.
Mae gan gynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd yr Alban eisoes y grym i fenthyca arian.
Os nad oedd Cymru’n cael yr un grym roedd berygl y byddai prosiectau ddim yn mynd yn eu blaen “oherwydd eu daearyddiaeth,” meddai.
“Mae’n amlwg nad yw hynny’n iawn. Rhaid i ni fod yn yr un sefyllfa a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.”