Gareth Williams
Bydd cwest i farwolaeth ysbïwr MI6 o Ynys Môn yn ystyried a lwyddodd i’w gloi ei hun mewn bag chwaraeon, meddai’r crwner heddiw.
Darganfuwyd corff noeth Gareth Williams, 31, wedi ei gloi mewn bag yn ei fflat yn Llundain ym mis Awst 2010.
Byddai’r posibilrwydd ei fod wedi cloi ei hun yn y bag, ag yntau ar y tu mewn, “wrth galon” y cwest, clywodd Llys Crwner San Steffan heddiw.
Mae dau arbenigwr eisoes wedi dweud y byddai’n anodd, os nad yn amhosib, iddo ei gloi ei hun yn y bag chwaraeon, clywodd y gwrandawiad cyn y cwest heddiw.
Dywedodd y Crwner, Fiona Wilcox, wrth y gwrandawiad heddiw y byddai’n hoffi gweld sut y gallai person roi ei hun mewn bag chwaraeon a’i gloi o’r tu fewn.
‘Pam yr oedi?’
Dywedodd cynrychiolydd teulu Gareth Williams, y cyfreithiwr Anthony O’Toole, eu bod nhw eisiau gwybod pam na ofynnwyd cwestiynau yn gynt pan fethodd Gareth Williams a chyrraedd ei waith.
Erbyn i swyddogion gyrraedd ei fflat, roedd ei gorff mor bydredig nes bod llawer o’r dystiolaeth wedi ei golli, a’r ymchwiliad post-mortem yn aneffeithiol.
Cafodd Gareth Williams ei ddarganfod mewn bag mawr North Face, wedi ei gloi o’r tu allan gan glo, yn ei fflat ar lawr uchaf adeilad yn Stryd Alderney ar 23 Awst, 2010. Mae’r heddlu amau y gallai fod wedi marw pythefnos yng nghynt.
Bydd y cwest, sy’n dechrau fis nesa’, yn clywed tystiolaeth gan gydweithwyr Gareth Williams o MI6 a GCHQ, ynghyd ag arbenigwyr tocsicoleg ac arbenigwyr ar fagiau, yn ogystal â chlywed datganiad gan ei chwaer.