Mae prisiau tai wedi cwympo’n gynt yng Nghymru nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig, yn ôl arolwg gan Gymdeithas Adeiladu’r Nationwide.

Cwympodd prisiau tai Cymru 3.1% yn ystod chwarter cyntaf 2012, yn ôl Mynegai Prisiau Tai y Nationwide, sef y cwymp mwyaf ym Mhrydain eleni.

Dywedodd y Nationwide fod cael gwared ar yr hoe treth stamp wedi cael effaith ar y farchnad dai yng Nghymru.

Mae tai Cymru bellach werth £129,682 ar gyfartaledd, sy’n 2.9% yn is nag oedden nhw yn ystod chwarter cyntaf 2011.

Caerdydd yw ardal ddrutaf, a’r ardal a berfformiodd orau dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae’r tai yno werth £201,077. Canol a gorllewin Cymru yw’r ardal rhataf ar £143,661, a’r ardal a welodd y cwymp mwyaf ym mhrisiau tai yn ystod 2012, sef   -6%.

“Roedd disgwyl i’r farchnad arafu ychydig ar ôl i’r hoe treth stamp ddod i ben,” meddai Robert Gardner, prif economegydd y Nationwide.

“Roedd hwnnw wedi rhoi hwb dros-dro i’r farchnad wrth i bobl fynd ati i brynu cyn i’r hoe ddod i ben.

“Rydym ni’n disgwyl i’r hinsawdd economaidd anodd ddal prisiau tai yn ôl, a bydd prisiau’n aros yn eu hunfan neu’n disgyn dros y deuddeg mis nesaf”.

Pris cyfartalog tŷ yn y Deyrnas Unedig gyfan yw £162,722, sydd 0.1% yn is na’r chwarter blaenorol.

Llundain yw’r ardal ddrutaf gyda thŷ’n gwerthu am £293,375 ar gyfartaledd, ac yng Ngogledd Iwerddon mae’r tai rhataf – £109,562.

Yr unig ranbarth arall sydd â phrisiau tai is na Chymru yw gogledd eithaf Lloegr.