Mae Plaid Cymru wedi croesawu adroddiad heddiw sy’n dweud y dylid troi dosbarthiadau ysgolion y wlad yn “ddosbarthiadau digidol”.
Mae’r adroddiad, sy’n ystyried y ffordd y mae disgyblion yn defnyddio technoleg, yn argymell creu sefydliad i ddatblygu system addysgu ddigidol ar gyfer Cymru.
Yn ôl argymhellion yr adroddiad, byddai corff cyhoeddus yn gallu sefydlu llyfrgell ar-lein genedlaethol o adnoddau, meddalwedd a deunyddiau hyfforddi yn Saesneg ac yn Gymraeg.
“Mae angen i dechnolegau digidol fod yn rhywbeth hollbresennol yn y dosbarth, ac yn rhywbeth sy’n cael ei gymryd yn ganiataol mewn addysg ledled Gymru,” meddai’r adroddiad.
Mae’r adroddiad gan y grŵp, a gomisiynwyd y llynedd gan y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, hefyd yn argymell rhagor o hyfforddiant a chefnogaeth i athrawon ar sut i ddefnyddio’r dechnoleg newydd sy’n dod yn fwyfwy cyffredin ym mywyd bob dydd.
Yn ôl Plaid Cymru, mae’n dda gweld yr adroddiad yn datblygu syniadau a gyflwynwyd gan y Blaid tra’n rhan o Lywodraeth glymblaid Cymru’n Un.
“Dw i’n falch fod yr adroddiad yn cynnig datblygu’r gwaith da a wnaed gan Blaid Cymru yn ystod ein cyfnod mewn Llywodraeth,” meddai Simon Thomas, llefarydd y Blaid ar addysg.
Roedd Plaid Cymru wedi “adnabod pwysigrwydd rhoi mynediad i gyfrifiaduron i blant, fel arf i ddysgu,” meddai.
Ychwanegodd ei bod hi’n “hanfodol bwysig bod y rôl y mae technoleg yn ei chwarae mewn bywyd cymdeithasol a bywyd gwaith yn cael ei adlewyrchu yng nghwricwlwm yr ysgol”.
“Rydyn ni’n croesawu’r ymrwymiad i ddysgu digidol,” meddai Simon Thomas.