Mae undeb darlledwyr wedi mynegi pryder ynglŷn â chynlluniau BBC Cymru i i dorri swyddi yn uned gynhyrchu ranbarthol Gogledd Cymru ym Mangor.

Mae’r cynlluniau yn rhan o gynllun ‘Delivering Quality First’ y BBC sy’n bwriadu arbed £10.7 miliwn erbyn 2016/17 trwy dorri rhyw 120 o swyddi yng Nghymru.

Dywedodd y swyddog cenedlaethol, David Donovan, y bydd y toriadau yn niweidio gallu BBC Cymru i ddarparu’r gwasanaethau sydd y mae poblogaeth ddwyieithog Cymru yn ei ddisgwyl.

Y toriadau oedd yr “hoelen olaf” yn arch y diwydiant teledu yng ngogledd Cymru, meddai.

Mae’r undeb yn honni bod BBC Cymru yn bwriadu cau uned cynhyrchu teledu Bangor yn gyfan gwbl.

“Mae’r ofnau yma yn arbennig o amlwg yn achos y cynlluniau ar gyfer BBC Bangor,” meddai David Donovan.

“Mae’r cynllun yn un brawychus yng nghyd-destun marwolaeth y diwydiant yng Ngogledd Cymru.”

Mae’r BBC yn honni y bydd eu presenoldeb yn parhau ym Mangor er gwaetha’ rhai toriadau, ac nad oedd BECTU yn deall y sefyllfa’n llawn.

“Mae’r BBC wedi ymrwymo i gynnal ei chanolfannau ym Mangor a Wrecsam ac yn cydnabod y rôl bwysig y maent yn ei chwarae o ran portreadu ac adlewyrchu Cymru gyfan ar draws ei holl raglenni a gwasanaethau – yn Gymraeg ac yn Saesneg,” meddai llefarydd.