Wylfa
Mae cwmni RWE npower fu’n rhan o’r fenter i adeiladu Wylfa B wedi dweud bod cyfle nawr i gwmni ynni arall adeiladu gorsaf niwclear ar y safle.

Mae Llywodraeth San Steffan hefyd wedi ategu’r neges honno gan ddweud fod y safle yn “cynnig cyfle i gwmnïoedd eraill ymuno â’r farchnad”.

Diolchodd RWE npower i gymuned Ynys Môn am “gryfder eu cefnogaeth,”gan ddweud eu bod nhw’n siomedig y bu’n rhaid dod a’r cynllun i ben.

Mae cwmnïoedd RWE npower ac E.ON bellach wedi cadarnhau na fyddwn nhw’n bwrw ymlaen â’u cynllun i adeiladu gorsafoedd Wylfa ar Ynys Môn ac Oldbury-on-Severn yn Swydd Gaerloyw.

Ond dywedodd y cwmnïoedd eu bod nhw’n chwilio am berchennog newydd ar gyfer cwmni Horizon Nuclear Power.

Roedden nhw’n pryderu ynglŷn â’r argyfwng ariannol a hefyd costau anferth y prosiect, medden nhw.

Mynnodd y cwmnïoedd y gallai buddsoddwr arall ddatblygu prosiectau Horizon yn eu lle, a’u bod nhw’n bwriadu parhau i fuddsoddi mewn prosiectau ynni ym Mhrydain.

Dywedodd RWE npower bod penderfyniad Llywodraeth yr Almaen i gefnu ar ynni niwclear wedi effeithio ar eu penderfyniad nhw.

“Rydyn ni’n argyhoeddedig bod prosiectau datblygiadol Horizon yn safleoedd gwych ar gyfer gorsafoedd niwclear ym Mhrydain,” meddai Volker Beckers, prif weithredwr RWE npower.

“Hoffwn ni ddiolch i’r cymunedau o amgylch Wylfa ac Oldbury, a phawb sydd wedi cefnogi datblygiad y gwaith.

“Oherwydd cryfder y gefnogaeth tuag at y gwaith, yn enwedig ar Ynys Môn, rydyn ni’n credu fod gan ynni niwclear rhan bwysig i’w chwarae yn nyfodol ynni Ynysoedd Prydain.”

Wrth ymateb i’r cyhoeddiadau dywedodd y Gweinidog Ynni, Charles Hendry, bod y cyhoeddiadau “yn amlwg yn siomedig iawn”.

“Ond mae rhaglen niwclear y Deyrnas Unedig yn fwy nag un cwmni ac mae yna ddiddordeb mawr,” meddai.

“Mae safloedd Horizon yn cynnig cyfle i gwmnïoedd eraill ymuno â’r farchnad.”

Ymateb undeb

Mae penderfyniad dau o’r chwe chwmni oedd wedi bwriadu buddsoddi yng nghenhedlaeth nesaf gorsafoedd niwclear Prydain yn “ergyd anferth” i Lywodraeth San Steffan, yn ôl un undeb.

Dywedodd Gary Smith o Undeb GMB ei fod yn “ergyd anferth sydd wedi chwalu strategaeth ynni Llywodraeth San Steffan”.