Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi cadarnhau na fydd cwmni Horizon yn bwrw ymlaen â’u cynlluniau i adeiladu Wylfa B.

Dywedodd y bydd hi’n ymdrechu i sicrhau bod Cymru yn denu cwmnioedd ynni eraill, er gwaetha’r cyhoeddiad “siomedig” heddiw.

Mae disgwyl i gwmni Horizon, sy’n fenter ar y cyd gan gwmnioedd tramor RWE Npower ac E.ON, gadarnhau na fyddan nhw yn buddsoddi ym mhwerdy niwclear Wylfa B, a fyddai yn weithredol erbyn 2020.

Dywedodd Cheryl Gillan heddiw ei bod hi’n dal i fod yn “argyhoeddedig bod Wylfa yn lleoliad delfrydol ar gyfer y genhedlaeth nesaf o orsafoedd ynni niwclear”.

“Mae gan Ynys Môn bron i 50 mlynedd o brofiad yn y diwydiant niwclear ac maen nhw wedi datblygu sgiliau sy’n ddi-ail,” meddai.

“Mae hyn yn rhoi’r hyder i fi y bydd y lleoliad yn Wylfa yn atyniadol i fuddsoddwyr eraill,” meddai.

Er bod cyhoeddiad Horizon yn golygu na fyddan nhw’n bwrw ymlaen gyda’u cynlluniau i godi Wylfa B, mae’n bosib y bydd gan gwmnïau eraill diddordeb mewn buddsoddi yn y fenter.

Dywedodd Cheryl Gillan ei bod wedi siarad ag RWE y bore ’ma ynglŷn â’u “rhesymeg dros y penderfyniad masnachol hwn,” a’u bod yn gobeithio cwrdd â nhw cyn gynted a bo modd.

“Mae’r Gweinidog Ynni wedi fy mriffio i. Bydd ef a finnau, a’n hadrannau ni, yn parhau mewn cysylltiad agos ac yn gweithio er mwyn sicrhau fod Cymru yn parhau’n lleoliad atyniadol i fuddsoddwyr ynni.”

Horizon yn tynnu’n ôl o roi tystiolaeth yn y Cynulliad

Mae cwmni Horizon sydd tu ôl i’r cynlluniau i godi pwerdy niwclear Wylfa B wedi tynnu’n ôl rhag rhoi tystiolaeth o flaen Pwyllgor y Cynulliad heddiw.

Wrth agor y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaladwyedd toc wedi 9.30am, dywedodd y Cadeirydd, Dafydd Elis Thomas na fyddai cwmni Horizon yn cyflwyno tystiolaeth wedi’r cwbl.

Yn ôl agenda’r cyfarfod, roedd Cyfarwyddwr Datblygiad Prosiect Horizon, Charlie Tasker, i fod i roi tystiolaeth ar ynni niwclear fel rhan o’r ymchwiliad i bolisi a chynllunio ynni yng Nghymru’r bore ’ma.

Ond dywedodd Dafydd Elis Thomas na fyddai cynrychiolydd Horizon yn rhoi tystiolaeth wedi’r cwbl, “oherwydd rhesymau arbennig sydd yn cael eu gwneud yn gyhoeddus ar hyn o bryd.”