Guto Bebb
Mae unrhyw un sy’n credu y bydd hi’n hawdd denu pleidleiswyr Plaid Cymru i gorlan y Ceidwadwyr yn “naïf”, meddai Guto Bebb.
Dros y Sul yn Llanelwy roedd Arweinydd Ceidwadwyr y Cynulliad, Andrew RT Davies, yn llygadu fôts Plaid Cymru gan fynnu bod yr Arweinydd newydd yn rhy bell i’r chwith i bleidleiswyr arferol y Blaid.
Ond ar drothwy etholiadau’r cynghorau sir, mae Aelod Seneddol Aberconwy yn rhybuddio nad yw ethol Leanne Wood yn golygu y bydd pleidlais y cenedlaetholwyr ceidwadol yn trosglwyddo i’r Torïaid.
“Does yna ddim amheuaeth fod Leanne Wood yn cynrychioli aelodaeth Plaid Cymru, ond dw i ddim yn credu ei bod hi’n cynrychioli nifer helaeth o bobol sy’n pleidleisio Plaid Cymru yn y gorllewin a’r gogledd,” meddai AS Aberconwy.
“Ond mae meddwl bod y pleidleiswyr hynny yn mynd i droi at y Blaid Geidwadol just like that, yn naïf.
“Mae’n rhaid i’r Blaid Geidwadol weithio’n galed er mwyn dangos ein bod ni’n berthnasol i’r math yna o etholwyr.”
“Yn y gorffennol yn fy etholaeth i mae yna bobol ‘ceidwadol’ efo ‘c’ fach wedi gallu derbyn polisïau adain chwith Plaid Cymru, am eu bod nhw’n medru troi at eu haelodau lleol fel Elfyn Llwyd a’r Arglwydd Elis-Thomas, a theimlo eu bod nhw’n eu cynrychioli nhw.”
Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 29 Mawrth