Mae llecyn ger Llanymddyfri yn un o dri safle ar draws Prydain sydd wedi eu dewis i fod yn rhan o arbrawf i weld a fydd 30 math gwahanol o goed yn goroesi wrth i’r hinsawdd newid.

Bydd y coed yn cael eu plannu mewn 37 safle ledled arfordir yr Iwerydd, gan gynnwys Crychan ger Llanymddyfri, Westonbirt yn Swydd Gaerloyw, ac Ynys Muile yn yr Alban.

Fe fydd yr arbrawf sydd wedi ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd yn tyfu sawl rhywogaeth wahanol, gan gynnwys rhai sy’n gynhenid i Brydain a rhywogaethau anghyffredin o dramor.

Bydd pob safle yn cynnwys yr un 30 rhywogaeth, gan gynnwys y dderwen Seisnig, y binwydden Albanaidd, y binwydden o Facedonia a’r binwydden arforol.

Caiff y coed eu monitro dros amser er mwyn gweld sut y maen nhw’n ymateb i dymheredd, lleithder a thymheredd eu hardal.

Dywedodd yr ymchwilwyr mai’r nod yw gweld pa goed fydd yn gallu disodli’r rhywogaethau brodorol wrth i newid hinsawdd fynd rhagddo.

Dros y degawd diweddaraf bu cynnydd mewn heintiau ac afiechydon sydd wedi lladd rhywogaethau brodorol, medden nhw.

“Er gwaethaf yr ansicrwydd ynglŷn ag effaith newid hinsawdd, mae disgwyl iddo gael effaith sylweddol ar ein coed yn ystod y ganrif yma,” meddai Dr Hugh Williams o’r Comisiwn Coedwigaeth

“Fe allai hafau poethach a sychach roi straeon ychwanegol ar y coed. Ar y llaw arall fe allai olygu ei bod hi’n haws tyfu rhai rhywogaethau.”