Mae dyn wedi ei gyhuddo yn dilyn gwrthdrawiad tacsi yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.

Aethpwyd ag wyth o gerddwyr i’r ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad ar Wood Street yng nghanol y brifddinas tua 7pm.

Cadarnhaodd Heddlu De Cymru bod dyn 28 oed wedi ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol, a saith achos o geisio achosi niwed corfforol difrifol.

Mae disgwyl iddo ymddangos o flaen Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener.

Y gred yw bod un dyn 35 oed yn parhau i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty ar ôl dioddef o losgiadau o ganlyniad i’r gwrthdrawiad.

Mae’r heddlu yn galw am wybodaeth. Dylai unrhyw lygaid dystion ffonio CID Caerdydd ar 02920 527420 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555111.