Mae’r bygythiad o streic gan yrwyr tanceri wedi arwain at brinder tanwydd mewn rhai gorsafoedd betrol yng Nghymru gyda phobl yn rhuthro i lenwi tanc y car.
Mae ymchwil gan Golwg360 yn awgrymu bod y sefyllfa’n waeth yng ngogledd Cymru nag yw hi yn y de.
Dywedodd gorsaf betrol ym Mae Colwyn eu bod nhw wedi gwerthu allan o betrol ac mai dim ond disel sydd ar ôl ganddyn nhw. Yn ôl gorsaf yn yr Wyddgrug mae hi’n brysur iawn yno ac maen nhw’n debygol o redeg allan o danwydd heno.
Roedd problemau cyflenwad yn y burfa olew yn golygu bod stoc tanwydd un orsaf ym Mhorthaethwy ar Ynys Môn yn isel eisoes, yn ôl swyddog yno, a gyda phobl yn mynd i banig a phrynu, roedd yn rhagweld y bydd y cyflenwad yn sych yno erbyn tua 10 o’r gloch heno.
Mae Llywodraeth Prydain wedi cael ei chyhuddo o ysgogi panig wrth i David Cameron gynghori pobl i lenwi tanc y car. Dywedodd Gweinidog y Cabinet Francis Maude hefyd y dylai pobl storio petrol ychwanegol mewn caniau yn y garej, cyngor a dderbyniodd gerydd gan Undeb y Frigâd Dân.
Sut mae’r sefyllfa danwydd yn eich hardal chi? Croeso i chi rannu eich profiad isod.