Gavin Williams
Mae prosiect yn Ne Cymru sydd â’r nod o atal carcharorion presennol a newydd eu rhyddhau rhag aildroseddu yn dathlu’r newyddion heddiw ei fod wedi derbyn grant o fwy na £3 miliwn gan y Gronfa Loteri Fawr.
Dyfarnwyd £3,137,466 i Garchar Ei Mawrhydi a Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr i redeg y prosiect Invisible Walls sydd â’r nod o weithio gyda throseddwyr a’u teuluoedd yn ystod eu dedfryd ac ar ôl cael eu rhyddhau i atal aildroseddu.
Dros y pedair blynedd nesaf, bydd y prosiect yn cydweithio â throseddwyr, eu teuluoedd a’u plant gan gynnwys pecyn o gymorth. Mae’n cynnwys rhaglenni magu plant, cyngor ar ddyled deuluol, hyfforddiant ac addysg, cyngor a chefnogaeth ar dai, iechyd a ffitrwydd corfforaethol a chefnogaeth wrth symud tuag at gyflogaeth.
Cynhaliwyd prosiect peilot llwyddiannus a ariannwyd gyda bron i £50,000 gan y Gronfa Loteri fawr yn 2010.
Un a all dystio i’r angen am y prosiect Invisible Walls, a’i effaith bositif, yw Gavin Williams, 30 oed, o’r Coed Duon.
Treuliodd Gavin, cyn garcharor yn y Parc, 15 mlynedd yn ôl ac ymlaen i’r ddalfa gyda hanes o gamddefnyddio sylweddau. Ym mis Gorffennaf 2010, fe’i dedfrydwyd i flwyddyn yn y carchar am ei rôl mewn trosedd yn gysylltiedig â byrgleriaeth. Yn sgil ei gamddefnydd ar sylweddau nid oedd yn cael gweld ei ferch ac roedd y berthynas â’i deulu wedi dirywio’n llwyr.
Ar ôl derbyn cymorth gan y Rhaglen Ymyriadau Teuluol yng Ngharchar y Parc a chymorth trwy’r prosiect peilot, mae Gavin bellach wedi troi ei gefn ar gyffuriau, wedi ailadeiladu pontydd â’i deulu ac mae hyd yn oed wedi sefydlu ei fusnes celf llawrydd ei hun.
Fe roddodd tîm y Parc Gavin mewn cysylltiad ag Ymddiriedolaeth y Tywysog ar ôl iddo adael y carchar, ac yn ei dro fe wnaeth hynny ei alluogi i sefydlu ei hun fel peintiwr hunangyflogedig.
“Fe wnes i ddechrau gweithio fel artist llawrydd ym mis Ionawr eleni,” meddai.
“Dwi’n gwneud llawer o bethau, o bortreadau teuluol i furluniau rhyfel a phrosiectau mawr. Mae busnes wedi bod yn brysur iawn a dwi wedi cael cymorth di-baid gan y Parc ers y diwrnod y ges i fy rhyddhau.”
Wrth i’w fusnes brysuro, gwahoddodd y tîm yng Ngharchar y Parc ef yn ôl fe contractwr allanol, i ailgydio ym mhethau a gweddnewid yr uned ymyriadau teuluol a’r ardaloedd i ymwelwyr.
“Mae’n anodd dychmygu wrth edrych yn ôl pa mor bell dwi wedi dod a dweud y gwir,” meddai.
“Fyddwn i ddim yma yn siarad â chi heddiw heblaw am y cymorth dwi wedi’i dderbyn. Yn ôl pob tebyg fe fyddwn i yn ôl yn y carchar. Fyddwn i byth wedi cael cyfle i wneud yr hyn dwi wedi’i wneud ac mae’n debyg y byddwn yn yr un llanast ag yr oeddwn i yn y lle cyntaf.”
Wrth edrych yn ôl, mae Gavin wrth ei fodd â’r hyn y mae wedi’i gyflawni mewn cyfnod byr o amser a does ganddo ddim ond canmoliaeth am y gefnogaeth y mae wedi’i derbyn:
“Dwi wedi llwyddo i ddod oddi ar y cyffuriau, wedi cael fy nheulu yn ôl ac mae gen i fy musnes fy hun, alla i ddim gofyn am fwy a dweud y gwir,” meddai.