Mae noethlymunwyr yn awyddus i weld traeth Niwbwrch ar Ynys Môn yn cael ei gydnabod yn swyddogol fel traeth arbennig iddyn nhw.
Mae’r traeth wedi bod yn un poblogaidd gan noethlymunwyr ers blynyddoedd ac maen nhw’n awyddus yn awr ei weld yn draeth swyddogol iddyn nhw a fyddai’n cael ei reoli gan bwyllgor a’i arwyddo’n glir er mwyn osgoi unrhyw embaras i ymwelwyr â’r traeth sydd ddim yn dymuno diosg eu dillad.
Mae British Naturism, sefydliad sy’n hyrwyddo noethlymuniaeth ym Mhrydain, wedi dweud y byddai cael cydnabyddiaeth swyddogol i’r traeth yn beth da i’r economi leol gan y byddai nifer o noethlymunwyr yn ymweld â’r ardal.
“Dyw diosg eich dillad ddim yn anghyfreithlon,” meddai Andrew Welch, Cyfarwyddwr Masnachol British Naturism, “ond rydym yn sensitif i farn y bobl leol ac felly mi fyddai cael cydnabyddiaeth swyddogol o’r traeth fel un ar gyfer noethlymunwyr yn ddefnyddiol iawn gan y byddai arwyddion clir yn nodi hyn yn yr ardal.
“Mae 4 miliwn o bobl ym Mhrydain yn noethlymunwyr,” ychwanegodd. “Gwnaethpwyd arolwg gan gwmni MORI yn yr hydref y llynedd, ac mi roedden ni ein hunain wedi synnu fod gymaint o noethlymunwyr i’w cael ym Mhrydain. Rydym yma i hyrwyddo noethlymuniaeth, i gefnogi noethlymunwyr ac i geisio cael gwared ar yr agweddau negyddol tuag atom.
“Mae noethlymuniaeth yn gwneud lles i chi gan ei bod yn ffordd o ddileu’r pryderon ynglŷn â’r ddelwedd o’r corff perffaith sy’n poeni gymaint o bobl ifanc y dyddiau hyn. Mae hefyd yn dda i’ch croen ac yn ffordd i gael Fitamin D o’r haul.”
Dywedodd y cynghorydd sir sy’n cynrychioli Niwbwrch, Peter Rogers, ei fod yn erbyn cael traeth swyddogol ar gyfer noethlymunwyr ond dywedodd ei fod yn amser naill ai gwahardd noethlymuniaeth ar y traeth yn gyfangwbl neu i roi’r statws swyddogol iddo a fyddai’n golygu y byddai modd ei reoli.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn nad oedden nhw wedi derbyn unrhyw gais i greu traeth ar gyfer noethlymunwyr yn Niwbwrch nag ar unrhyw draeth arall ar yr ynys.