Neuadd y Sir, Caerfyrddin
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyhoeddi y bydd Ysgol Cwmifor ger Llandeilo yn cau eleni, ac mae’r brifathrawes wedi mynegi ei phryder ynglŷn ag effaith hyn ar y Gymraeg yn yr ardal.
Roedd Adran Addysg y Cyngor Sir wedi argymell cau Ysgol Cwmifor, a sefydlwyd yn wreiddiol yn 1880, ar ôl i niferoedd y disgyblion ddisgyn i dri yn Hydref 2011. Mae Bwrdd Gweithredu’r Cyngor Sir wedi cytuno i gau’r ysgol.
Bydd teuluoedd o fewn ardal Ysgol Cwmifor yn gorfod anfon eu plant i dref Llandeilo, naill ai i Ysgol Gymraeg Teilo Sant neu Ysgol Gynradd Llandeilo, sy’n Saesneg ei chyfrwng.
Dywedodd y brifathrawes, Janice Jones,
“Ry’n ni’n ysgol categori A felly Cymraeg yw cyfrwng naturiol yr ysgol. Dyw’r plant ddim yn dod o deuluoedd Cymraeg ond maen nhw’n gadael yr ysgol yn rhugl a dwi’n credu bydd cau ysgol fel hon yn cael effaith ar yr iaith.
“Wrth i sïon ddechrau fod yr ysgol i’w chau disgynnodd y niferoedd i dri. Doedd dim gwrthwynebiad i’r cau ond dwi’n credu bydd y gymuned leol yn gweld eisiau’r ysgol ar ôl iddi gau.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Addysg Sir Gaerfyrddin, Rob Sully, ei fod yn gwerthfawrogi pa mor drist yw’r newydd i gymuned Cwmifor, ond nad oedd modd cyfiawnhau cadw ysgol mor fach ar agor.
“O safbwynt addysgol mae wedi bod yn anodd cyflwyno hyd a lled y cwricwlwm, a phrofiadau cymdeithasol, i griw mor fach. O’r herwydd ry’n ni wedi gorfod ystyried lles tymor hir y disgyblion.”
“Ry’n ni wedi ymgynghori â’r gymuned leol a heb dderbyn gwrthwynebiad i’r cynllun i gau’r ysgol.”