Bu’r Gweinidog Addysg a Sgiliau Leighton Andrews yn cynnal cyfarfod heddiw er mwyn trafod yr opsiynau ar gyfer cynnal ffatrioedd Remploy yng Nghymru.

Roedd cyrff sydd â diddordeb yn nyfodol Remploy yn bresennol, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chanolfan Gydweithredol Cymru.

Mae Leighton Andrews am weld cyfrifoldeb dros ffatrioedd Remploy yng Nghymru yn cael ei ddatganoli i Gaerdydd.

Mae Gweinidog Anabledd Llywodraeth Prydain, Maria Miller, wedi cyhoeddi ei bwriad i gau saith o’r naw ffatri Remploy yng Nghymru, a dywedodd Leighton Andrews ei fod wedi gofyn iddi ddatganoli’r cyllid ar gyfer cynnal ffatrioedd Remploy Cymru i’r Cynulliad.

“Byddwn ni’n parhau i ddwyn pwysau ar Lywodraeth Prydain ar y mater hwn”, meddai Leighton Andrews.

“Rydym ni wedi dweud y byddwn ni’n gweithio gyda Remploy, yr undebau a phartion eraill – ac mae nifer ohonyn nhw – i weld a allwn ni gael opsiwn ymarferol ar gyfer y gweithwyr yng Nghymru o fewn y pwerau sydd ar gael i ni. Y cyfarfod hwn yw rhan gyntaf y broses hon.”