Angelika Dries-Jenkins
Mae dyn wedi gwadu llofruddio pensiynwraig er mwyn dwyn arian o’i chyfrif banc i dalu am ei briodas.
Clywodd Llys y Goron Abertawe bod Angelika Dries-Jenkins, 66, o Arberth, Sir Benfro wedi cael ei harteithio nes iddi ddatgelu manylion ei chyfrif banc, cyn cael ei llofruddio.
Honir bod John Mason, 55, wedi targedu’r bensiynwraig, oedd yn byw drws nesaf i’w fam, yn ardal Providence Hill.
Clywodd y rheithgor bod Mason wedi dwyn ei char Skoda ac wedi cymryd arian o’i chyfrif banc dros gyfnod o sawl diwrnod.
Fe ddigwyddodd y llofruddiaeth ar 1 Mehefin yng nghartref Angelika Dries-Jenkins, lle roedd hi’n byw ar ei phen ei hun.
Roedd ei merch wedi darganfod ei chorff ddeuddydd yn ddiweddarach yn ystod ymweliad â chartref ei mam.
Mae Mason yn gwadu ei llofruddio.
Clywodd y llys bod Mason i fod i briodi ei ddyweddi ar 9 Mehefin ond yn byw ar fudd-daliadau o £100 bob pythefnos.
Heddiw fe fu Mason yn rhoi tystiolaeth am y tro cyntaf, ac fe wadodd unrhyw gysylltiad â’r llofruddiaeth.
Roedd Mason, o bentref cyfagos Llandysilio, wedi cyfaddef iddo alw draw i dŷ ei fam ar 1 Mehefin ond mae’n mynnu nad oedd wedi siarad â Angelika Dries-Jenkins ers o leia bythefnos ac nad oedd yn gwybod dim am ei llofruddiaeth.
Cafodd yr achos ei ohirio tan yfory pan fydd yn cael ei groesholi gan Patrick Harrington QC ar ran yr erlyniad.